Home – Cymraeg
Yr ydym yn awr ar agor…!
Mae Gwaenynog yn ffermdy carreg B&B hardd mewn ardal heddychlon, a lleoliad delfrydol ar gyfer ymweld â Chanolbarth Cymru. Yn swatio rhwng y Berwyn a Mynyddoedd Cambriaidd, rydym ond milltir o Afon Efyrnwy a 9 milltir o Lyn Efyrnwy sy’n hudolus a rhamantus. O’n hamgylch mae rhai o’r ardaloedd mwyaf golygfaol a thlws, ac heb eu hamaru gan ddiwydiant trwm. Maent hefyd yn ardaloedd cymharol ddistaw o ran ymwelwyr.
Rydym yn agos i’r Trallwng, sy’n dref farchnad yng Nghanolbarth Cymru ac yn sefyllfa delfrydol ar gyfer teithiau cerdded hyfryd ar Lwybr Glyndŵr. Mae sawl lle o ddiddordeb i’w hymweld, er enghraifft, Rheilffordd Gul Trallwng a Llanfair (un o drenau-stêm bach gwych Cymru), teithiau cwch ar Gamlas Langollen, a chastell hardd Powis gyda’i erddi gwych. Mae llawer o erddi eraill sy’n werth eu hymweld hefyd.
Mae pob un o’n stafelloedd gwely ag enw aderyn lleol: Peregrin, sef ein ‘superking’ (neu gall ei rannu’n ddau); Crëyr & Chnocell y Coed yw’r dyblau, neu Tylluan, ein stafell pedwar postyn – all hefyd fod yn stafell teulu; mae pob stafell gyda gwelyau hynod gyfforddus a hefyd ystafell ymolchi yn gysylltiedig. Yn ogystal, mae pob stafell â gwahanol olygfa ohoni. Rydym yn gobeithio ein bod wedi meddwl am y pethau bach fydd yn gwneud eich arhosiad gyda ni yn hapus.
Rydym yn cynnig bwydlen o brydau bwyd, drwy drefniant, ac mae gennym drwydded i gynnig gwin, cwrw neu wirodydd – er mwyn i chi fwynhau gwydraid neu ddau ar ein patio neu yn y lolfa gwadd.
Yn bendant yn lle i ymlacio, dadweindio a dianc …